Ein gwasanaeth
Rydym yn cyflenwi miloedd o
oriau o ddigwyddiadau a newyddion byw trwy gyswllt lloeren. Yn ddiogel. Yn
gyson.
Rydym yn integreiddio’n naturiol fel tîm gyda darparwyr darlledu allanol
a chriwiau newyddion er mwyn cefnogi’ch cynyrchiadau gwerthfawr. Rydym yn
brofiadol ac yn arbenigol. Mae rhai o’r digwyddiadau darlledu pwysicaf wedi
cael eu hymddiried i ni.
Ein harbenigedd
- Darlledu Manylder Uwch gan ddefnyddio cywasgiad MPEG4-AVC
- Cynhwysedd lloeren cost-effeithiol i leihau’r gost i chi
- Adnoddau Manylder Safonol ar gyfer newyddion a digwyddiadau sy’n
defnyddio technoleg DVB-S2
- Lawr-lwybrau (downlinks) ar gyfer cynadleddau a chyfraniadau rhaglenni
- Cynllunio, ymgynghori ac atebion satcomms